logo

Newyddion Plant Ysgol Rhieni Cysylltu cwricwlwm Noddwyr English
homess-21

Mentergarwch

Diweddariad Chwefror 2024

Ers y Nadolig, mae staff yr ysgol wedi bod wrthi yn ceisio ail-wampio cwt tu allan i wneud gweithdy i Seiri'r Gof. erbyn hyn, mae'r gweithdy yn werth ei weld ac mae drysau newydd sbon ar y cwt i gadw'r offer yn ddiogel. Rydym yn edrych ymlaen yn arw i gael gwneud defnydd llawn o'r cwt yn dyfodol.

  • Clwb
  • Clwb

Diweddariad Rhagfyr, 2023

Cynhaliwyd cystadleuaeth yn nosbarth Seithbont i ddylunio tagiau anrhegion Nadoligaidd i’w gwerthu.
Llongyfarchiadau mawr i Wil am ennill y gystadleuaeth. Y Cyngor Ysgol gafodd y pleser o feirniadu gwaith creadigol y plant.
Mi fydd y tagiau ar werth yn Ffair ‘Dolig y Cylch Meithrin nos ‘fory yn Sarn, ewch yno i’w cefnogi.

  • tags nadolig wedi creu gan ddisgybl
  • hogyn ifanc yn dal tags nadolig i fyny

Diweddariad Rhagfyr, 2022

Mae Seiri’r Gof wrth eu gwaith eto eleni. Mae blwyddyn 1 a 2 wedi bod yn brysur yn gwneud dynion eira er mwyn eu gwerthu.
Diolch yn fawr iawn i Gwilym Sion Parri am y darnau coed.


Diweddariad Haf, 2022

Bu blwyddyn 3 a 4 yn brysur iawn yn gwnïo 'scrunchies' i'w gwerthu yn y Ffair Haf. Mi werthwyd pob un am £2 yr un. Cafwyd elw o £108! Roedd hyd yn oed yr hogiau wrth eu boddau yn cael cyfle i wnïo yn defnyddio'r peiriant.


Diweddariad Rhagfyr, 2020

Mae plant dosbarth blwyddyn 2 wedi bod wrthi yn brysur yn gwneud canhwyllau hyfryd i'w gwerthu cyn y Nadolig. Maent wedi gwerthu 74 ohonynt felly roeddent yn brysur iawn yn eu creu wythnos yma. Pris un gannwyll oedd £2 a 3 cannwyll oedd £5. Gwnaethpwyd £130 o elw i'r ysgol.

  • 161220-1
  • 161120-4
  • 161220-5
  • 161120-6
  • 161120-7

Mentergarwch dosbarth derbyn a blwyddyn 1 2020

Dyma ein busnes y Nadolig hwn. Creu sebon i gadw pawb yn yr ardal yn saff. Fe wnaethom elw o £66.

  • 181220-mentergarwch-dolig-1
  • 181220-mentergarwch-dolig-2
  • 181220-mentergarwch-dolig-3

Diweddariad Rhagfyr, 2019

Coed Nadolig oedd dosbarth blwyddyn 1 a 2 yn awyddus i'w gwneud eleni. Aethom a'r coed Nadolig i'r Sioe Nadolig er mwyn eu gwerthu. Roeddem yn eu gwerthu am £3 yr un. Gwerthwyd 24 ohonynt ar y noson a cawsom lawer o archebion. Felly, roeddem yn brysur iawn cyn i'r ysgol gau yn creu mwy o goed bach Nadolig. Roeddent yn ddigon syml i'w gwneud, roedd yn rhaid torri darn trwchus o goedyn i wneud y rhan gwaelod, yna fel coes i'r goeden roeddem yn mynd i'r ardd wyllt i chwilio am brigau. Roedd yn rhaid gwneud twll gyda dril i roi y ddau yn sownd yna, er mwyn gwneud y goeden ei hun, roeddem yn torri dau ddarn o ddefnydd Nadoligaidd yn drionglau, yna eu gwnio a'u stwffio gyda wadin. Er mwyn gwneud gorffeniad del i'r goeden, roeddem yn rhoi weiren yn y defnydd ac yn gludo seren fach ar top. Cawsom fwynhad enfawr yn creu y coed bach.


Diweddariad Hydref, 2018

Eleni, bu blwyddyn 2 a 3 yn brysur yn creu dynion eira allan o goed. Gwerthwyd 42 o ddynion eira i gyd cyn y Nadolig a gwnaethpwyd elw o £400.

Diolch yn fawr iawn i bawb gefnogodd ein menter.

Cawsom lwyddiant yng nghystadleuaeth y criw mentrus drwy ddod yn ail.

  • 181120-llun-1-lrg
  • 181120-llun-2-lrg
  • 181120-llun-3-lrg
  • 181120-llun-4-lrg
  • 181120-llun-5-lrg
  • 181120-llun-6-lrg


Diweddariad Mai, 2017

Holidaur Ymchwil i'r Farchnad:
Cliciwch yma

Holiadur Adborth Cwsmeriaid:
Cliciwch yma


Diweddariad Ebrill, 2017

Buom yn brysur iawn dros dymor y Nadolig yn creu Coed Nadolig allan o baledi. Bu i bawb gael andros o hwyl yn eu creu a’u gwerthu. Ers hynny, rydym yn falch o weld gwerth ein llafur gan weld yr holl bethau wedi ei brynu gyda’r elw, yn bennaf, 10 Chromebook newyd i’r ysgol, sydd yn dod a’r cyfrifiad i 18. Mae rhain yn ddefnyddiol iawn yn ein gwersi pob dydd pan yn gwneud gwaith ar y we. Rydym wedi bod yn defnyddio’r coed yn ein gwaith ysgol hefyd, drwy eu denfyddio yn y gwersi mathemateg a iaith.

Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb a fu yn ein cefnogi a’n cynorthwyo drwy ein cyflenwi gyda paledi, prynu ein coed a rhoi help llaw. Hebddoch ni fuasai’r fenter wedi bod yn lwyddiant.

Rydym nawr yn awyddus i gymryd rhan yng nghystadleuaeth y Criw Mentrus, sydd yn edrych ar sgiliau entrepeneriaeth mewn plant.


Diweddariad Rhagfyr, 2016

imageMae blwyddyn 5 a 6 wedi bod yn brysur iawn y tymor diwethaf, yn adeiladu coed Nadolig allan o baledi, ar gyfer eu menter newydd sef Seiri’r Gof. Maent wedi gwneud eu coed allan o baledi gan gwmniau clên o gwmpas Pen—Llyn . Diolch i Mrs Roberts am gael y syniad ardderchog yma! Mae ein logo wedi cael ei ddylunio gan Twm Jôs Hughes, blwyddyn 5. Rydym wedi bod yn defnyddio llu o offer gwahanol, o ddril i fwrthwl i ‘Gorilla Glue’ - ffefryn Jini! Rydym wedi dysgu llawer o wahanol sgiliau drwy ymgymryd â’r fenter hon, a rydym wedi bod wrth ein boddau!!

Mae pawb wedi mwynhau cymryd rhan yn y prosiect mentergarwch yma ac mae hyd yn oed yr athrawon wedi cymryd rhan ynddo! Ein rhannau gorau o`r gwaith yw peintio,llifio`r coed ac wrth gwrs defnyddio “gorilla glue”.

Rydym wedi bod yn brysur yn creu cardiau busnes, posteri a fideos (cerwch i edrych arnynt ar Facebook!). Ar ddydd Sadwrn olaf mis Tachwedd, bu i ni fynd i Hwyl yr Wyl ym Mhwllheli i werthu ein coed. Cafon andros o hwyl yn trafod y busnes gyda phobl ac yn gwerthu POB coeden Nadolig!!

Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi ein menter ni, a’r busnesau lleol sydd wedi rhoi paledi, ni fuasai’r fenter wedi bod yn bosibl hebddoch!

Yn anffodus, mae’r llyfr archebion bellach ar gau, ond os hoffech gysylltu, e-bostiwch ni ar:
seiri@pontygof.cymru

Buasem wrth ein boddau yn gweld lluniau o’r coed yn eu cartrefi newydd!

Cliciwch yma i weld lluniau

Eco-Schools logo Ysgolion Iach  logo Fairtrade logo Yr Eglwyd yng Nghymru