logo

Newyddion Plant Ysgol Rhieni Cysylltu cwricwlwm Noddwyr English
homess-21

Croeso i dudalen y Cyngor Ysgol


Eich Llais, Eich Dweud!

logo Cyngor YsgolBeth yw cyngor ysgol?

Grŵp o ddisgyblion yw Cyngor Ysgol, sydd wedi cael eu hethol gan eu cyd ddisgyblion i gynrychioli barn a chodi materion gydag uwch-reolwyr a llywodraethwyr yr ysgol. Rhoddir y cyfle i’r cyngor ysgol fwrw ymlaen â phrosiectiau gwahanol ar ran y disgyblion, a chyfrannu at gynllunio, cynllun datblygu’r ysgol, cyfarfodydd llywodraethu a phenodiadau staff.

Cyngor Ysgol Pont y Gof 2023-24

Cynrychiolir y Cyngor Ysgol gan ddosbarthiadau blynyddoedd 2 i 6. Ar ddechrau bob blwyddyn cynhelir pleidlais yn y dosbarthiadau er mwyn ethol dau ddisgybl i’w cynrychioli ar y Cyngor Ysgol. Bydd yr aelodau yn cyfarfod dwywaith y tymor er mwyn trafod syniadau’r cynghorau dosbarth cyn penderfynu ar flaenoriaethau a rhaglen weithredu am y tymor. Bydd yr aelodau yn rhannu eu blaenoriaethau yn dymhorol gyda holl ddisgyblion yr ysgol, staff, corff llywodraethu a’r gymuned.

Cyngor Ysgol

Cyngor Ysgol

    Gofynion Disgyblion Ysgol Pont y Gof (Medi 2023)

    Dosbarth Cofan

  • Anifeiliaid Anwes
  • Dosbarth Trewen

  • Offer chwarae tu allan e.e castell neidio
  • Dosbarth Seithbont

  • Mwy o lyfrau
  • Cael defnyddio offer chwaraeon amser chwarae
  • Dosbarth Rhyd Goch

  • Cael ymddygiad gwell amser chwarae e.e plant i fod yn hapusach
  • Tacluso’r ysgol – Tu mewn a thu allan e.e yr ardd
  • Ychwanegol

  • Clwb darllen
  • Creu ffilm i gyfarch ymwelwyr
  • Clybiau ar ôl ysgol
  • Cefnogi elusennau lleol

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan llaisdisgyblioncymru.org.uk

Eco-Schools logo Ysgolion Iach  logo Fairtrade logo Yr Eglwyd yng Nghymru