(English translation coming soon...)
Beth yw cyngor ysgol?
Grŵp o ddisgyblion yw Cyngor Ysgol, sydd wedi cael eu hethol gan eu cyd ddisgyblion i gynrychioli barn a chodi materion gydag uwch-reolwyr a llywodraethwyr yr ysgol. Rhoddir y cyfle i’r cyngor ysgol fwrw ymlaen â phrosiectiau gwahanol ar ran y disgyblion, a chyfrannu at gynllunio, cynllun datblygu’r ysgol, cyfarfodydd llywodraethu a phenodiadau staff.
Cyngor Ysgol Pont y Gof 2019 – 2020
Cynrychiolir y Cyngor Ysgol gan ddosbarthiadau blynyddoedd 2 i 6. Ar ddechrau bob blwyddyn cynhelir pleidlais yn y dosbarthiadau er mwyn ethol dau ddisgybl i’w cynrychioli ar y Cyngor Ysgol. Bydd yr aelodau yn cyfarfod dwywaith y tymor er mwyn trafod syniadau’r cynghorau dosbarth cyn penderfynu ar flaenoriaethau a rhaglen weithredu am y tymor. Bydd yr aelodau yn rhannu eu blaenoriaethau yn dymhorol gyda holl ddisgyblion yr ysgol, staff, corff llywodraethu a’r gymuned.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan llaisdisgyblioncymru.org.uk