logo

News Children School Parents Contact curriculum Sponsors Cymraeg
homess-21

Ysgol Werdd

(English translation coming soon)

Rydym ni fel grŵp yr Ysgol Werdd yn canolbwyntio ar annog ein cyd-ddisgyblion i warchod a gofalu am yr amgylchedd yn ddyddiol.

Rydym yn canolbwyntio ar:

  • Cadw’r ysgol yn lân a thaclus wrth gasglu sbwriel
  • Lleihau gwastraff
  • Teithio yn ddoeth
  • Byw’n iach a gwneud dewisiadau synhwyrol
  • Arbed ynni a dŵr
  • Plannu llysiau
  • Ailgylchu ac ailddefnyddio
  • Gwarchod yr amgylchedd leol, tir yr ysgol a thu hwnt
  • Edrych ar ddinasyddiaeth byd eang
  • 170124-ysgol-werdd

Rydym wedi rhoi cyflwyniadau yn y Gwasanaeth ar foreau dydd Mercher ar ein gwaith yn ystod y flwyddyn. Yn y gwasanaethau rydym wedi bod yn annog plant yr ysgol i wneud eu rhan i warchod yr amgylchedd drwy ddifodd y golau a’r gwresogydd ar ôl gadael ystafell. Rydym wedi bod yn annog i blant fynd a’r sbwriel i’r bin yn hytrach na’i adael ar lawr ac ailgylchu pan fydd hynny’n bosibl.

Un o’n hoff bethau fel rhan o’r Ysgol Werdd yw garddio. Rydym wrth ein boddau yn torchi ein llewys ac yn baeddu ein dwylo! Mae pob un yn y dosbarth yn cael chwynnu a phlannu ar ddechrau tymor yr Haf yna bydd 2 helpwr gwahanol yn dyfrio’r llysiau a’r planhigion yn ddyddiol. Rydym yn ailgylchu dŵr glaw i’w roi i’r llysiau. Rydym wrth ein boddau yn cael cynnyrch o’r ardd i’w roi i staff y gegin, maen bleser gweld y plant yn sglaffio 'r cynnyrch ffres.

Rydym yn cefnogi ‘Antur Waunfawr’ drwy gadw biniau glas i ailgylchu dillad ar yr iard. Mae croeso i unrhyw un yn y gymuned ddod draw i roi eu dillad neu esgidiau yn y bin glas. Pan fydd y biniau yn llawn, ein swydd ni yw ffonio’r swyddfa i ddweud fod angen eu gwagio. Byddem hefyd yn cael cyfle i werthu’r cynnyrch yn y Ffair Haf.

Rydym yn gwneud penderfyniadau pwysig er mwyn lleihau effaith amgylcheddol yr ysgol. Rydym yn annog plant i deithio’n iach i’r ysgol yn enwedig pan fydd yn haul yn tywynnu.

  • plant yn garddio mewn teiar tractio
  • plant yn garddio
  • Plant yn garddio

 

 

Eco-Schools logo Ysgolion Iach  logo Fairtrade logo Yr Eglwyd yng Nghymru