logo

Newyddion Plant Ysgol Rhieni Cysylltu cwricwlwm Noddwyr English
homess-21

Uchafbwyntiau


Eisteddfod Ysgol - Mehefin 2023

Cyn yr Haf, cawsom Eisteddfod Ysgol. Wel dyma i chi beth oedd un o brif uchafbwyntiau 2023. Wrth i ni baratoi at yr Eisteddfod, braf oedd gallu cynnal Eisteddfod fach i ni ein hunain er mwyn cael blas o'r talentau sydd ganddon ni yma yn Ysgol Pont y Gof.
Cynhaliwyd cystadlaethau o bob math, rhestr faith o gystadlaethau gwaith cartref a digonedd o ddewis i berfformio ar y llwyfan.
Dechreuwyd gyda Eisteddfod fach yn yr Ysgol. Diolch i Mrs Enid Evans, Mrs Sharon Glyn a Mr Tudur Phillips am ddod i'r ysgol i feirniadu'r holl berfformiadau llwyfan. Mi oedd 'na lwyth o waith! Dewiswyd y tri perfformiad gorau o bob dosbarth i fynd i berfformio i neuadd Sarn ar noson yr Eisteddfod.
Diolch hefyd i'r holl feirniaid ddaeth i feirniadu gwaith cartref y plant.
Cafodd y tri darn gorau o waith ym mhob oedran o bob cystadleuaeth fynd i neuadd Sarn i gael eu harddangos. Agorwyd y neuadd er mwyn i'r cyhoedd gael mynd yno i weld a gwerthfawrogi gwaith y plant.

Llongyfarchiadau i bob un o'r plant am eu gwaith ac am eu perfformiadau yn yr Eisteddfod eleni. Mi oedd hi'n bleser gweld pawb yn mwynhau. Mae llwyth o dalent ym Mhont y Gof. Diolch i'r holl athrawon a chymorthyddion am eu holl waith o'u dysgu.

Tri tŷ oedd yn cystadlu yn erbyn eu gilydd, Nigwl, Dyffryn a Threfaes. Eleni, Neigwl aeth a'r wobr gyntaf yn yr Eisteddfod, gyda Lisi o flwyddyn 6 yn ennill cadair am y darn gorau o waith ysgrifenedig. Llongyfarchiadau i Lisi ag i dîm Neigwl. Tybed os fydd eisteddfod arall yn cael ei chynnal ym Mhont y Gof yn y dyfodol?

Eco-Schools logo Ysgolion Iach  logo Fairtrade logo Yr Eglwyd yng Nghymru