logo

Newyddion Plant Ysgol Rhieni Cysylltu cwricwlwm Noddwyr English
homess-21

Archif Dosbarth

Thema y dosbarth y tymor yma yw 'Yn yr Ardd'. Rydym wedi bod yn brysur yn chwilio am drychfilod ac yn dysgu am wahanol drychfilod.

 

  • 211019-derbyn-1-sm
  • 211019-derbyn-2
  • 211019-derbyn-3
  • 211019-derbyn-4
  • 211019-derbyn-5
  • 211019-derbyn-6
  • 211019-derbyn-7

 

Beth Petai?
Dyma stori ddifyr am ffermwr sydd wedi mynd a rai gwyliau i Awstralia ac mae o’n dod adra i Gymru gyda Changarŵ. Mae hyn yn achosi penbleth mawr ar Fferm Nant y Briallu achos dydi’r anifeiliaid ddim yn gwybod sut anifail yw’r cangarŵ ac yn poeni ei fod am ddwyn eu gwaith ar y fferm. Rhaid protestio!!! Does yr un cangarŵ yn do di Fferm Nant y Briallu i ddwyn eu gwaith nhw!

  • 060721-protestio-1
  • 060721-protestio-2
  • 060721-protestio-3

 


Cylch bywyd y broga

Dyma ni yn dysgu am gylch bywyd y broga ac yn creu cartref newydd i Bili Broga.

  • 270521-broga-1
  • 270521-broga-2
  • 270521-broga-3
  • 270521-broga-4
  • 270521-broga-5
  • 270521-broga-6
  • 270521-broga-7
  • 270521-broga-8
  • 270521-broga-9

Stori’r Pasg
Dyma weithgareddau’r Stori’r Pag

* Creu dail palmwydd
* Gosod bwrdd ar gyfer y swper olaf
* Creu cawl ar gyfer y swper ac ysgrifennu rhestr o’r cynhwysion.
* Creu croes

  • Dail
  • Paratoi swper olaf
  • Swpar
  • Cawl
  • Croes
  • Croes
  • Sul y blodau

 


Thema Fferm

Dyma flas o weithgareddau yn dilyn thema fferm.

* Creu cwt i'r anifeiliaid
* Trwsio yn y sied peiriannau
* Creu fferm gyda partner dysgu
* adeiladu trelar

Huwcyn, Heulwen a Socsan ein cywion bach

Dyma ni yn dysgu am gylch bywyd yr iar. Cawom hwyl yn creu nyth i'r iâr.

Gwerthu Wyau i gasglu arian tuag at Cymorth Christnogol- gwnaethom elw o £35.50

  • 270521-cywion-1
  • 270521-cywion-2
  • 270521-cywion-3
  • 270521-cywion-4
  • 270521-cywion-5
  • 270521-cywion-6
  • 270521-cywion-7

Dyma ni yn mwynhau gweithgareddau'r dolig.

  • 181220-dolig-derbyn-1-1
  • 181220-dolig-derbyn-1-2
  • 181220-dolig-derbyn-1-4
  • 181220-dolig-derbyn-1-5
  • 181220-dolig-derbyn-1-6
  • 181220-dolig-derbyn-1-7-sm
  • 181220-dolig-derbyn-1-3

Dosbarth Mrs Jones Dyma ni yn mwynhau gweithgareddau o’r stori y tri mochyn bach. Rydym wedi bod yn adeiladu tai a creu brics allan o sment.
Mae tri mochyn bach yn saff iawn yn eu tai erbyn hyn.

  • 171220-derbyn-1-1
  • 171220-derbyn-1-2
  • 171220-derbyn-1-6
  • 171220-derbyn-1-3
  • 171220-derbyn-1-7
  • 171220-derbyn-1-8
  • 171220-derbyn-1-5
  • 171220-derbyn-1-4

Tymor yr Haf.
Ein thema y tymor yma yw ‘Y Fferm’. Rydym yn mwynhau straeon Tecwyn y Tractor, dechreuom ni’r thema wrth ddarllen ‘Tecwyn yn plannu tatws’ felly, rydym wedi bod wrthi yn plannu yn yr ardd lysiau. Mae digon o amrywiaeth o lysiau yn yr ardd - tatws, moron, pys, betys, letys, nionod ac ychydig o flodau.
Wrth i ni ganu cân Breian Bwgan Brain, penderfynom ni greu bwgan brain ein hunain er mwyn cadw’r adar i ffwrdd o’r llysiau.
Rydym yn dysgu am anifeiliaid y fferm ac wedi cael tro ar odro y fuwch sydd wedi cyrraedd yr ysgol.

  • 110521-fferm1
  • 110521-fferm2
  • 110521-fferm3
  • 110521-fferm4

Ar ôl dychwelyd i’r ysgol cyn y Pasg. Cawsom gyfle i ddysgu am Fasnach Deg. Roeddem yn mwynhau dysgu am ffermwyr yn y trydydd byd. Pan fyddwn yn siopa o hyn ymlaen, mi fyddwn yn edrych am logo Masnach Deg ar y cynnyrch er mwyn cefnogi ffermwyr mewn gwledydd tlawd.

  • masnach-deg

Tymor yma, rydym wedi bod yn dilyn themau ‘Fi fy hun’. Dechreuom ni wrth wneud Gwaith am deimladau a dilyn stori Elfed yr Eliffant. Yna, aethom I ddysgu am y coed. Dysgom ni lawer am enwau coed a pha hadyn oedd yn dod o ba goeden. Gwneaethom ni lawer o waith am y tymhorau a dysgu am ddatblygiad coeden drwy’r tymhorau, dilynom ni stori’r Fesen Fach er mwyn dysgu mwy am hyn. Ar ddiwedd yr ail dymor, fe wnaethom ddysgu stori’r geni ar ffurf pie corbett a chofnodi’r stori yn ein llyfrau. Fe wnaethom ni hefyd wneud canhwyllau nadoligaidd I’w gwerthu er mwyn codi arian I’r ysgol, ewch draw I adran mentergarwch I ddysgu mwy amdanynt.

  • 161220-bl1-2-4
  • 161220-bl1-2-2
  • 161220-bl1-2-1
  • 161220-bl1-2-5
  • 161220-bl1-2-3

 

Thema y dosbarth y tymor yma yw 'Yn yr Ardd'. Rydym wedi bod yn brysur yn chwilio am drychfilod ac yn dysgu am wahanol drychfilod. Mi wnaethom ni gasglu mwyar duon ar ddechrau'r tymor a gwneud cacennau a chrymbl gyda'r mwyar. Rydym wedi dysgu am wahanol rannau o gyrff y trychfilod ac ar hyn o bryd yn dysgu am rannau blodau ac enwa'r planhigion sy'n tyfu yn yr ardd. Daeth mam a dad Elias i'r ysgol hefyd i adeiladu gwesty pryfaid gyda'r plant.

 

  • 211019-bl-1-a-2
  • 211019-bl-1-a-2-2
  • 211019-bl-1-a-2-3

 

Tymor yma, rydym ni wedi bod yn gwneud gwaith ar Ddyfeisiau Difyr. Rydym wedi edrych ar bob mathau o ddyfeisiau ac wedi astudio eu heffaith ar yr amgylchedd. Roedd hyn hefyd yn gyfle da i wneud ychydig o waith ar rymoedd. Cawsom gyfle i ddysgu ychydig am y COP26 hefyd.

Diolch i Rhys, cawsom daith ddifyr i gopa Garnfadryn ar ddiwrnod braf ym mis Hydref. Dysgom ni lawer am ein hardal leol, yr hanes, y tirwedd a'r bywyd gwyllt.

Rydym wedi cael cyfle i ddefnyddio dyfeisiau i greu ffilm. Cawsom hefyd y cyfle i creu dyfais difyr ein hunain a'u harddangos i weddill yr ysgol.

Ar hyn o bryd, rydym yng nghanol gwneud gwaith ar drydan, felly pwy a wyr beth fyddem wedi ei greu erbyn y Nadolig?!

Rydym hefyd yn creu addurniadau Nadoligaidd i'w gwerthu fel ein prosiect mentergarwch eleni.

  • blwyddyn-3-a-4-1-lrg
  • blwyddyn-3-a-4-2-lrg
  • blwyddyn-3-a-4-3-lrg
  • blwyddyn-3-a-4-4-lrg
  • blwyddyn-3-a-4-5-lrg
  • blwyddyn-3-a-4-6-lrg
  • blwyddyn-3-a-4-7-lrg
  • blwyddyn-3-a-4-8-lrg

‘Cartrefi’ ydy thema dosbarth Blwyddyn 3 a 4 y tymor yma, ac rydym wedi bod yn dilyn hynt a helynt Sara Mai yn ein gwaith Cymraeg. Mae Sara Mai yn brif gymeriad y nofel ‘Sw Sara Mai’ gan Casia Wiliam, ac fel y gallwch ddyfalu o deitl y nofel, mae hi’n byw mewn sw. Rydym wedi cwblhau bob math o weithgareddau iaith a dysgu llawer am Arth yr Andes. I goroni’r cyfan rydym yn edrych ymlaen i gael cyfarfod Casia Wiliam ar Zoom! Mae gennym lawer o gwestiynau i ofyn iddi hi.

Hanes ‘Fantastic Mr Fox’ yn cael ei hel o’i gartref ydy sail ein gwaith Saesneg. Rydym wedi mwynhau’r stori gan Roald Dahl yn arw ac wedi cwblhau llawer o waith difyr. Cawsom gyfle i weld y ffilm, a chymharu’r nofel efo’r ffilm hyd yn oed.
Ers talwm roedd pobl yn byw mewn cestyll, a dyma’n gwaith Hanes am y tymor – dysgu am fywyd mewn castell, cymharu â heddiw, adeiladu cestyll, a gweithio mewn grwpiau i gael llawer o hwyl!

Rydym hefyd wedi sôn am Dr Barnado a’r gwaith pwysig wnaeth o i helpu plant di-gartref; rydym wedi trafod di-gartrefedd, a dod i sylweddoli pa mor lwcus ydym ni yn Ysgol Pont y Gof.

Cynefinoedd amrywiol fu ein gwaith Gwyddoniaeth, ac astudio’r ffordd mae popeth byw yn addasu i’w gynefin neu’i gartref. Mae gennym hadau blodyn haul wedi egino, a phump lindysyn sydd bron yn barod i droi’n bump chwiler! Tybed sut bili pala gawn ni? Mae hi’n fwriad gennym ymdrin â Chysawd yr Haul nesaf….
Tymor prysur, a phawb yn hapus o fod yn ôl yn yr ysgol.


Rydym wedi cael tymor hynod o brysur yn nosbarth Blwyddyn 3 a 4. Roedd pawb yn hapus o fod yn ôl yn yr ysgol ar ôl gwyliau’r haf a’r clo mawr, ac roeddem yn falch iawn o weld ein gilydd.

Ein thema’r tymor yma oedd “Fi Fy Hun”, ac rydym wedi bod yn darllen a chwblhau gwaith wedi’i seilio ar stori “Helynt Gwion” gan Mared Llwyd yn ein gwersi Cymraeg. Mae’r llyfr yn sôn am fabi gwahanol iawn!

Yn ein gwersi Saesneg, “Mouseday” gan Dick King-Smith oedd ein llyfr dosbarth. Cawsom ddilyn hynt a helynt bachgen bach oedd yn cuddio anifail anwes arbennig.

Canolbwyntio ar ein ardal leol wnaethom yn ein gwaith thema; cyfle i fynd am dro o gwmpas pentref Botwnnog, a gwneud llawer o waith difyr wedyn, yn dod i adnabod ein hardal lleol yn well.

Cawsom ymweliad gan PC Owen, oedd yn sôn am ddiolgelwch y we. Cyfle i ddysgu sawl peth newydd.

Cawsom fore difyr yn gweld sioe “Yr Heriau Hud” gan Anni Llŷn a mwynhau yn fawr iawn.

Tymor prysur a phawb wrth eu bodd!

Tymor yma hefyd, mae dosbarth blwyddyn 3 a 4 wedi bod yn gwneud gwaith gwyddoniaeth ar drydan, y nod oedd cael eu cerdyn Nadolig i oleuo.

 

Themau’r Tymor: Fi – y peiriant gorau un!

Yn ystod y tymor rydym wedi bod yn ddiwyd yn paratoi ac yn cynllunio ar gyfer y 6 maes dysgu. Bûm yn darllen am hanes O.M. Edwards a’r ‘Welsh Not’ ac yn ysgrifennu straeon arswyd drwy gyfrwng y Saesneg.

Yn ogystal bûm yn cynnal ymchwiliadau gwyddonol yn ymwneud gyda’r corff, datrys problemau rhif yn deillio a phrydau bwyd iach, astudio’r ardal leol, creu sgets o ganlyniad i’n gwaith am y ‘Welsh Not’ a hefyd creu posteri am sut i gadw’n heini ar y cyfrifiadur.

Ar ben hynny, bu i ni gael sawl ymweliad hwyliog a diddorol yn ystod y tymor megis ymweliad gan PC Owen a oedd yn ein hatgoffa am ddiogelwch y wê a hefyd cawsom gyfle i fwynhau sioe ‘Yr Heriau Hud’ gyda Tudur, Anni a Megan Llŷn. Hoffem ddiolch i Eglwysi Bro Madryn am eu gwasanaethau yn ystod y tymor.

  • 181220-5a6-1
  • 181220-mentergarwch-dolig-2
  • 181220-5a6-3
  • 181220-5a6-4
  • 181220-5a6-5
  • 181220-5a6-6
  • 181220-5a6-7

Mae Blwyddyn 5 a 6 wedi bod yn gweithio'n galed ddechrau'r wythnos i greu gwefannau ffeithiol am Ynys Enlli. Mae hyn yn arwain at ein gwaith ar nofel Rockets to the Rescue gan Tania Martin. Cymerwch olwg ar eu gwefannau gwych isod!!

http://bardsey.weebly.com/

http://bardseyisland.weebly.com/

http://ffeithiauenlli.weebly.com/

http://factsaboutbardsey.weebly.com/

http://factsyoudidntknowaboutbardsey.weebly.com/

 

Eco-Schools logo Ysgolion Iach  logo Fairtrade logo Yr Eglwyd yng Nghymru